Timothy Dalton | |
---|---|
Ganwyd | Timothy Leonard Dalton Leggett 21 Mawrth 1946 Bae Colwyn |
Man preswyl | Chiswick, West Hollywood, Saint John's |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu |
Taldra | 74 modfedd |
Partner | Vanessa Redgrave |
llofnod | |
Actor Seisnig[1] yw Timothy Peter Dalton (ganwyd 21 Mawrth 1946). Cafodd ei eni ym Mae Colwyn. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan James Bond yn The Living Daylights (1987) a Licence to Kill (1989), yn ogystal â Rhett Butler yn y gyfres deledu llwyddiannus "Scarlett" (1994), dilyniant gwreiddiol i Gone with the Wind. Mae hefyd wedi actio mewn addasiad ffilm o nofel Emily Bronte "Wuthering Heights" (1970), Charlotte Bronte "Jane Eyre" (1983) a dramâu Shakespearaidd, gan chwarae rhai o'r prif gymeriadau yn "Romeo and Juliet", "King Lear", "Henry V", "Love's Labours Lost” a "Henry IV."